Ffurf ar athroniaeth positifiaeth yw positifiaeth resymegol sy'n dal taw'r unig broblemau athronyddol ystyrlon yw'r rhai a ellir eu datrys drwy ddadansoddiad rhesymegol a gosodiadau empiraidd.
Datblygodd Cylch Fienna yr ysgol feddwl hon yn y 1920au, ar sail gweithiau'r rhesymegwyr Gottlob Frege a Bertrand Russell, efrydiau positifaidd Ernst Mach, a gwaith Ludwig Wittgenstein a G. E. Moore. Un o brif daliadau'r mudiad oedd honiad Wittgenstein taw eglurhad y meddwl yw nod athroniaeth. Ceisiodd gyflwyno methodoleg a chywirdeb mathemateg a'r gwyddorau naturiol i faes athroniaeth, gan osod sylfeini athroniaeth ddadansoddol ar wahân i athroniaeth ddamcaniaethol a metaffiseg. Gwadodd wirionedd y fath dybiaethau anwyddonol, a mynodd taw ystyr emosiynol yn unig sydd i ddyfarniadau gwerth. Daeth dylanwad y mudiad i ben tua dechrau'r Ail Ryfel Byd, ond parháodd ei gysyniadau'n ddylanwadol yn athroniaeth y Gorllewin ar feddylwyr megis A. J. Ayer a Gilbert Ryle.